Comisiwn y
Cynulliad
Assembly Commission
NAFWC 2011 (Papur 2)
Gweithdrefn a llywodraethu’r Comisiwn
Dyddiad: 16 Mehefin 2011
Amser: 13:00
Lleoliad: Ystafell Gynadledda
4B
Enw a rhif ffôn yr awdur: Ian Summers, estyniad 1824
Gweithdrefn a Llywodraethu’r Comisiwn
1.0 Diben a chrynodeb materion
1.1 Yn ei gyfarfod cyntaf ym mis Mehefin 2007, cymeradwyodd y Comisiwn dair dogfen a oedd yn egluro egwyddorion fframwaith cyffredinol ar gyfer llywodraethu’r sefydliad, y rheolau ar gyfer cyfarfodydd y Comisiwn a dirprwyo swyddogaethau i’r Prif Weithredwr. Ni ddiweddarwyd y dogfennau hyn yn ystod y Trydydd Cynulliad.
1.2 Er 2007, cafwyd nifer o ddatblygiadau o ran llywodraethu corfforaethol, ac mae gan y Comisiwn bedair blynedd o brofiad gweithredol erbyn hyn. Mae’r etholiad Cynulliad diweddar a’r newid Comisiynwyr yn gyfle delfrydol i adolygu’r dogfennau hyn yng ngoleuni profiad ac arfer gorau.
2.0 Argymhellion
2.1 Gofynnir i’r Comisiwn gymeradwyo:
(i) yr egwyddorion llywodraethu diwygiedig a’r darpariaethau ategol – a geir yn Atodiad A;
(ii) y rheolau diwygiedig ar gyfer busnes y Comisiwn – a geir yn Atodiad B; a
(iii) swyddogaethau dirprwyo diwygiedig y Comisiwn a’r trefniadau i weithredu swyddogaethau’r Clerc — a geir yn Atodiadau C a D.
3.0 Trafodaeth
Egwyddorion llywodraethu a darpariaethau ategol
3.1 Lluniwyd egwyddorion llywodraethu a darpariaethau ategol 2007 yn unol â’r Cod Arferion Da ar gyfer Llywodraethu Corfforaethol a gyhoeddwyd gan y Trysorlys yn 2005. Lle mae’n wahanol, mae hynny’n bennaf oherwydd ystyriaethau mewn perthynas ag amgylchedd datganoledig y Comisiwn a’i statws fel corff corfforaethol a chanddo “fwrdd llywodraethu” a’i aelodau oll yn Aelodau etholedig.
3.2 Mae’r Trysorlys wrthi ar hyn o bryd yn dwyn i ben y gwaith ar ddiwygio Cod 2005 i gynnwys nifer o newidiadau yn Whitehall er 2005. Mae’r Cod diwygiedig yn canolbwyntio’n bennaf ar adrannau llywodraeth ac, yn benodol, ar y byrddau cynghorol y bydd Gweinidogion yn eu cadeirio ac a fydd yn cynnwys aelodau anweithredol. Ni fydd llawer o hyn yn berthnasol i Gymru ac yn sicr nid i’r Comisiwn (er bod gennym ymgynghorwyr annibynnol sydd â rôl debyg i rôl cyfarwyddwyr anweithredol, ond heb hawliau pleidleisio).
3.3 Diweddarodd y Cyngor Adrodd am Faterion Ariannol ei God Llywodraethu Corfforaethol ar gyfer cwmnïau sector cyhoeddus yn y DU ym mis Mehefin 2010. Mae’r egwyddorion yn y Cod hwnnw’n rhoi pwyslais newydd ar arwain ac effeithiolrwydd, yn hytrach nag ar gydymffurfio a rheoli, gan gadw’r un pryd adrannau ar atebolrwydd a rheoli risg.
3.4 Wrth ddiweddaru Egwyddorion
Llywodraethu’r Comisiwn a’i Ddarpariaethau Ategol,
tynnwyd ar gyhoeddiadau’r Cyngor Adrodd am Faterion Ariannol
a’r Trysorlys ill dau, gan eu teilwra’n sylweddol i
gyd-fynd â statws, rôl a chylch gwaith y
Comisiwn. Mae’r ddogfen a gafwyd o ganlyniad yn dilyn
arferion presennol a safonau sydd wedi datblygu ers sefydlu’r
Comisiwn yn 2007 ac mae hefyd yn gyson â’r Safon
Llywodraethu Da i Wasanaethau Cyhoeddus a gyhoeddwyd gan y Comisiwn
Annibynnol ar gyfer Llywodraethu Da mewn Gwasanaethau
Cyhoeddus.
Rheolau cynnal busnes y Comisiwn
3.5 Cafodd rheolau gwreiddiol y Comisiwn ynghylch cynnal busnes eu hystyried gan y Comisiwn Cysgodol cyn etholiad 2007, ac fe’u derbyniwyd yn ffurfiol gan y Comisiwn yn ei gyfarfod cyntaf ym mis Mehefin 2007. Er eu bod wedi para’n dda ar y cyfan, fe’u lluniwyd yn niffyg profiad ymarferol o’r modd y byddai’r Comisiwn yn gweithredu. Gwnaethpwyd nifer o fân newidiadau felly yn sgîl y pedair blynedd o brofiad sydd gennym erbyn hyn.
Offeryn dirprwyo
3.6 Mae’r gwelliannau i’r offeryn dirprwyo’n nodi:
(i) y ffaith bod gennym swydd Prif Gynghorydd Cyfreithiol bellach nad oedd yn bodoli ym mis Mehefin 2007; a’r ffaith
(ii) bod rhai o swyddogaethau’r Comisiwn wedi cael eu trosglwyddo i’r Bwrdd Taliadau.
3.7 Adolygwyd hefyd y gofyniad blaenorol ar y Prif Weithredwr i ymgynghori â’r Comisiwn cyn caffael neu waredu tir ac adeiladau o ba werth bynnag a chyn dechrau prosiectau TGCh. Cynigir aralleirio’r gofyniad i gynnwys pob prosiect cyfalaf sy’n costio dros £1 miliwn. Yn y modd hwn, rhoddir ystyriaeth i rôl strategol y Comisiwn ac atebolrwydd y Prif Weithredwr o ran gweithrediadau ac, fel y Swyddog Cyfrifyddu, dros reoli cyllid y sefydliad. Bwriedir parhau i ymgynghori â’r Comisiwn ynghylch prosiectau mawr (strategol) megis UNO.